P-05-713 Wildlife Warriors
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lee Kabza, ar ôl casglu 13 llofnod ar lein
Geiriad y ddeiseb
Mae Fforwm Iau Caerffili yn gweithio gyda phlant 7-11 oed ym mwrdeistref Caerffili i roi llais i blant am faterion sydd o bwys i blant.
Bob blwyddyn mae’r Fforwm Iau yn nodi pwnc blaenoriaeth i roi sylw iddo. Y flaenoriaeth ar gyfer 2015-2016 yw gwarchod cynefin naturiol bywyd gwyllt.
Mae aelodau’r Fforwm Iau yn credu y dylai fod gan bob ysgol gynradd yng Nghymru glwb amgylchedd o’r enw’r "Wildlife Warriors" i gynorthwyo i warchod amgylchedd naturiol ein bywyd gwyllt.
Byddai’r clwb hwn
· yn wahanol i ecobwyllgorau ysgolion gan y byddai unrhyw un o unrhyw oedran yn cael ymuno. Ni fyddai angen i blant gael eu hethol i fod yn y clwb.
· yn weithredol trwy’r flwyddyn er mwyn cynorthwyo i warchod bywyd gwyllt.
· yn weithgar yn eu cymuned ac yn gwneud gweithgareddau ymarferol i gynorthwyo i warchod bywyd gwyllt. Gallai’r gweithgareddau hyn gynnwys glanhau afonydd, adeiladu cartrefi i fywyd gwyllt, plannu blodau a choed.
· yn hyblyg er mwyn i wahanol bobl allu ymuno ar wahanol adegau